Cysylltu Geiriau
Mae data cysylltu geiriau wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi astudiaethau gwyddonol o iaith ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gall geiriau sy’n cael eu hadalw’n ddigymell mewn ymateb i giwiau ddatgelu gwahaniaethau pwysig yn y ffordd y mae unigolion yn prosesu iaith ac yn dehongli ystyron. Gall dadansoddiad deallus o ddata “cysylltu geiriau” ein helpu i ddeall y ffyrdd y deuir o hyd i eiriau, sut cânt eu rhannu a’u colli:
Gall canfod geiriau gyfeirio at gaffael geiriau newydd yn ein hiaith gyntaf, a chaffael ieithoedd newydd. Yn y ddau achos, mae geirfa newydd ei chaffael yn cael ei hintegreiddio i ‘eirfa’r meddwl’ bresennol ac yn datblygu cysylltiadau â geiriau a chysyniadau eraill. Gall dod o hyd i air hefyd gyfeirio at adalw geirfaol; y gallu i ganfod a defnyddio gair mewn disgwrs rhugl. Fel arfer rydym yn ymwybodol o’r broses chwilio hon dim ond pan fydd hi’n broblematig, er enghraifft pan fyddwn yn methu dros dro â dod o hyd i air yr ydym yn gwybod ein bod yn ei wybod. Gall data cysylltu geiriau ein helpu i fodelu geirfa’r meddwl fel rhwydwaith, fel y gallwn archwilio pwyntiau angori ar gyfer geiriau newydd eu caffael, a llwybrau ar gyfer adalw gair.
Mae rhannu geiriau yn cyfeirio at y ffenomen bob dydd lle rydym yn rhannu ein dealltwriaeth o eiriau rydym yn eu defnyddio wrth gyfathrebu â’n gilydd. Gall data cysylltu geiriau ddweud wrthym am gyfyngiadau a ffiniau’r dealltwriaethau hynny ymddengys eu bod wedi’u rhannu, a gwahaniaethau main ac arlliwiau ystyr efallai na chânt eu rhannu.
Mae colli geiriau, fel y gwelir mewn achosion o affasia neu ddementia, yn cael ei brofi fel colli dros dro neu’n barhaol y gallu i adalw ystyr a/neu ffurf geiriau. Gall tasgau cysylltu geiriau fod yn ffordd effeithlon ac ymdrech isel o gasglu data mewn achosion o’r fath. Gall y data dilynol ddatgelu gwybodaeth am y mathau o eiriau sy’n anhygyrch, y mathau o gysylltiadau geirfaol yr ymddengys eu bod wedi’u torri, a’r llwybrau cylchymadrodd posib a allai hwyluso cyfathrebu.
Mae tasgau cysylltu geiriau fel arfer yn rhoi ciw un gair i gyfranogwr, a rhaid iddo ymateb â’r gair cyntaf sy’n dod i’r meddwl. Caiff hyn ei ailadrodd am gyfres o giwiau. Mewn rhai achosion, gofynnir i gyfranogwyr roi mwy nag un ateb. Bydd y set ddata ddilynol fel arfer yn cynnwys set o eiriau ciw, gyda’r ymatebion i bob gair gan set o gyfranogwyr.
Mae ymagweddau at archwilio a dadansoddi data cysylltu geiriau fel arfer yn dilyn un o ddau lwybr, y gellir eu crynhoi fel dadansoddi stereotypy a dadansoddi math o gysylltiad. Mae’r cyntaf o’r rhain yn defnyddio ‘rhestri normau’ gan grwpiau o ymatebwyr fel data cyfeirio er mwyn mesur stereotypy neu unigrywiaeth ymatebion gan grŵp neu unigolion targed. Mae’r ail yn defnyddio tacsonomeg mathau o ymatebion i gategoreiddio’r math o gysylltiad rhwng ciw ac ymateb. Mae mathau o dacsonomeg yn amrywio’n helaeth o ran y math o gategorïau a nifer y categorïau, ac yn dibynnu ar y cwestiwn ymchwil a ofynnir o’r data, ond mae’r rhan fwyaf yn cynnwys, er enghraifft, gategorïau ar gyfer geiriau ag ystyron tebyg, ac am eiriau y mae ganddynt berthynas gyfosodiadol.
Er gwaethaf y traddodiad hir a rhai canfyddiadau addawol, mae tystiolaeth o ymchwil i gysylltu geiriau wedi bod yn rhwystredig o anghyson. Mae hyn yn rhannol oherwydd y dylanwadau niferus ar ymddygiad cysylltu unrhyw unigolyn, ond hefyd oherwydd natur ansystematig ac anghydlynol ymagweddau methodolegol . Drwy ddarparu, drwy’r wefan hon, setiau data sefydlog sydd â nodweddion penodol ac ymagweddau dadansoddol a brofwyd, ein nod yw hwyluso mwy o ymchwil gadarn a deallus, sy’n gallu gwireddu potensial llawn ymagweddau cysylltu geiriau.
Rydym yn ddiolchgar am gymorth Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) a Phrifysgol Abertawe, wrth greu’r adnoddau hyn.
Y Tîm
Tess Fitzpatrick

Mae Tess Fitzpatrick yn Athro Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Abertawe, y DU, lle bu’n Bennaeth yr Adran Ieithyddiaeth Gymhwysol ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Iaith. Mae gwaith Tess ar gaffael geirfa ail iaith yn cael ei lywio gan ei gyrfa gynnar fel athrawes ESOL. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar brosesu geirfa ac mae’n arwain grŵp ymchwil geirfa rhyngwladol. Mae Tess wedi byw yng Nghymru am dros dri deg o flynyddoedd, ac mae ei phrofiad o fyw yn y rhan ddwyieithog hon o’r DU yn llywio ei gwaith. Bu’n Gadeirydd Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain rhwng 2015 a 2018. Yn 2017, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol iddi am ei gwaith ym maes astudiaethau geirfaol a dealltwriaeth ehangach o brosesau gwybyddol mewn dysgu ac addysg iaith. Yn 2021, daeth yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn 2023 roedd hi’n Gymrawd Ian Gordon ym Mhrifysgol Victoria yn Wellington, Seland Newydd.
Steve Morris

Tan 2020, yr oedd Steve Morris yn Athro Cysylltiol mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe lle mae bellach yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol. Roedd yn gyd-luniwr/cyd-ymchwilydd ar brosiect CorCenCC a gyllidwyd gan yr ESRC/AHRC. Mae Steve yn aelod o nifer o weithgorau a phaneli’r Llywodraeth sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhyngddisgyblaethol rhwng Ieithyddiaeth Gymhwysol a’r Gymraeg.
Theodore Mills

Mae Theo Mills yn Swyddog Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe sy’n gweithio ar hyn o bryd ar brosiect a ariennir gan yr AHRC – ‘Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli: Deall Geirfa’r Meddwl’. Derbyniodd ei PhD mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol yn 2024, gan ymdrin â datblygiad geirfa mewn plant oedran ysgol yn y DU. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil ym meysydd polisi iaith a datblygu geirfa iaith gyntaf.