Croeso i’r wefan Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli: Deall Geirfa’r Meddwl. Mae’r wybodaeth a’r adnoddau yma’n canolbwyntio ar y defnydd o ddata cysylltu geiriau i ymchwilio i eirfa’r meddwl. Cliciwch ar y tab Ynglŷn â’r Prosiect i gael cyflwyniad i’r ymchwil i gysylltu geiriau, ac ar y tab Adnoddau i weld sgyrsiau, offer a chyhoeddiadau.

I hwyluso gwaith ymchwil a dadansoddi pellach, mae’r wefan yn rhoi mynediad at setiau data a rhestri normau nad oeddent ar gael o’r blaen. Mae’r setiau data hyn wedi’u llunio yn ôl protocolau a ysgogir gan ymchwil, gan reoli ar gyfer nodweddion penodol ymatebwyr a nodweddion geiriau ciw. Mae’r setiau data wedi cael eu casglu dros gyfres o brosiectau ymchwil ac mae ein prosiect Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, wedi ein galluogi ni i’w curadu a’u rhannu yn ogystal â’r ymchwil y mae nhw wedi’i chreu hyd yn hyn, drwy’r wefan hon. 

Gallwch ddefnyddio’r ddewislen uchod i ddysgu mwy am y prosiect a’n tîm, a gallwch ddod o hyd i ddolenni i gael mwy o wybodaeth.  Gallwch archwilio’r taenlenni a’r delweddau o’n setiau data cysylltu geiriau. O dan y tab Adnoddau, cewch wybodaeth am fethodolegau dadansoddol, offer a llenyddiaeth ymchwil a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer eich ymchwiliadau eich hun. Gallwch hefyd weld ein hallbynnau o’r prosiect hwn, gan gynnwys cyflwyniadau a phosteri.

Ceir gwybodaeth ddyfynnu ar gyfer pob set ddata/rhestr normau ar y dudalen we berthnasol. Os yw eich dyfyniad yn un cyffredinol, defnyddiwch: Fitzpatrick, T., Mills, T., a Morris, S. (2025). Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli: Deall Geirfa’r Meddwl. Prifysgol Abertawe.  https://mental-lexicon.swansea.ac.uk/cy/ddata-cymraeg/

1. Mae rhestri normau’n rhestri o ymatebion cyfranogwyr i eiriau ciw a drefnwyd yn ôl eu hamlder ymysg grŵp o gyfranogwyr.

2. Cyfeirnod y prosiect AH/Y003020/1. Mae Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).


Oni nodir yn wahanol, mae’r holl gynnwys ar y wefan hon dan drwydded Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International.

Diolch am eich diddordeb; rydym yn gobeithio y bydd y tudalennau gwe yn ddefnyddiol.

E-bostiwch drwy glicio yma.