Cefndir

Seilir y Rhestri Normau hyn ar ddata a gasglwyd yn wreiddiol fel rhan o brosiect i greu rhestri geirfa graidd ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Yn absenoldeb corpws cynhwysfawr o Gymraeg cyfoes ar y pryd, rhoddwyd rhestri geirfa graidd A1 ac A2 at ei gilydd trwy addasu’r fethodoleg a ddefnyddiwyd yn wreiddiol wrth greu français fondamental (Gougenheim 1964)[2].  

Er mwyn ymestyn yr ymchwil i lefel B1 (Canolradd[1]), defnyddiwyd set o 900 o eiriau ciw wedi’u seilio ar y rhestri A1 ac A2 i ennyn ymatebion cysylltu geiriau. Mae oddeutu 80% o ymatebion cysylltu geiriau yn gydleoliadau, cyfystyron (rhannol), neu hyponymau o’r ciw (Fitzpatrick 2007) a byddai rhestr eiriau B1 wedi’i chreu o’r rhain yn ymestyn gwybodaeth am eirfa A1 ac A2 yn unol â hynny. 

Recriwtiwyd tua 85 o gyfranogwyr o ledled Cymru i roi ymatebion i’r 900 o eiriau ciw A1 ac A2. Yr unig amod i gymryd rhan oedd eu bod yn diffinio eu hunain yn ddefnyddwyr rhugl o’r Gymraeg. Darparwyd gwybodaeth i ddangos a oeddynt yn siaradwyr Cymraeg L1 (iaith gyntaf) neu siaradwyr newydd (L2). 

Dosbarthwyd y 900 gair ciw (enwau, berfau, ansoddeiriau ac adferfau ond nid geiriau ffwythiannol) ar hap yn 30 set o 30 ciw ac anfonwyd un set at y cyfranogwyr bob yn ail a thrydydd diwrnod. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi tri ymateb i bob ciw a oedd yn esgor ar gronfa ddata o oddeutu 190,000 o ymatebion ac, yn unol â’i bwrpas gwreiddiol, dyma oedd sail y rhestr Geirfa Graidd Canolradd

Mae’r gronfa ddata lawn o ymatebion yn ffurfio’r set gyntaf (hyd y gwyddom ni) o normau ymatebion cysylltu geiriau Cymraeg ac fe’i cyhoeddir yma fel adnodd ymchwil.  

[1] Defnyddir Canolradd i ddynodi lefel ddysgu B1 y CEFR gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’r corff asesu CBAC.  Cyfeirir at lefel A1 y CEFR fel lefel Mynediad ac A2 fel lefel Sylfaen. 

[2] Gw. Morris, 2011 am amlinelliad llawn o’r fethodoleg. 

Gofynnir i chi ddyfynnu’r wybodaeth a’r data ar y dudalen hon fel: Fitzpatrick, T., Mills, T., a Morris, S. (2025). Dod o Hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli: Deall Geirfa’r Meddwl [Morris, S., Meara, P. a Fitzpatrick, T.  Cysylltiadau Geiriau Cymraeg Prifysgol Abertawe]. Prifysgol Abertawe. https://mental-lexicon.swansea.ac.uk/

Fitzpatrick, T. (2007). Word association patterns: Unpacking the assumptions. International Journal of Applied Linguistics, 17(3).

Gougenheim, Georges, René Michéa, Paul Rivenc, & Aurélien Sauvageot. (1964). L’Élaboration du français fondamental (1er degré): étude sur l’établissement d’un vocabulaire et d’une grammaire de base. Didier: Paris.

Rhestri Normau 

Isod, mae’r rhestri normau ar gyfer y data Cymraeg–900 wedi’u delweddu gan Tableau. Delweddiadau dynamig, cwbl ragweithiol yw’r rhain sy’n dangos yr holl ymatebion a roddwyd i’r holl giwiau.  

Gallwch hidlo trwy (1) ciw a (2) rhif yr ymateb (casglwyd tri ymateb ar gyfer pob ciw yn y set hon o ddata) wrth yr ochr. Gallwch ddewis mwy nag un ciw i gymharu’r ymatebion a roddwyd.  

Geiriau Hyb 

Mae’r tabl hwn yn cyflwyno’r geiriau hyb yn y set ddata Cysylltu Geiriau Cymraeg–900. Mae’r rhain yn eiriau a roddir fel ymateb i lawer o giwiau gwahanol. Mae’r tabl isod yn dangos y geiriau hyb yma, wedi’u trefnu yn ôl Cyfrif yr Ymateb (y nifer o weithiau y rhoddwyd y gair hwn fel ymateb yn y set ddata, h.y. tocynnau) a Chyfrif y Ciw (nifer y ciwiau gwahanol y rhoddwyd y gair hwn yn ymateb iddynt, h.y. mathau). 

Data

Trwy lawrlwytho’r ffeiliau isod, rydych yn cytuno i ddefnyddio’r setiau data hyn o dan y Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International.

Ffeil Dolen
Set ddata Cymraeg–900 Dataset.xlsx
Canllaw i Ddefnyddwyr Cymraeg–900User Guide.pdf
Geiriau Hyb Geirfa Cymraeg–900 Hub Words (Tableau)
Delweddu Rhestri Normau Cymraeg–900 Norms Lists (Tableau)
Tabl Rhestri Normau Gymraeg–900 Norms Lists (Tableau)

Cydnabyddiaethau 

Casglwyd y data a ddefnyddir yma yn wreiddiol gan Steve Morris, Paul Meara a Tess Fitzpatrick fel rhan o brosiect rhestri geiriau addysgegol a ariannwyd yn rhannol gan CBAC.