Ynglŷn â’r Prosiect

Casglwyd y data hwn fel rhan o brosiect a ariannwyd gan yr yr ESRC (RES-000-22-4012) a arweiniwyd gan Tess Fitzpatrick. Cynhaliwyd y dasg cysylltu geiriau gan dîm a arweiniwyd gan Margie Wright yn Sefydliad Ymchwil Feddygol Queensland, Brisbane. Roedd y tîm yn gweithio ar astudiaeth cofrestrfa gefeilliaid fawr a arweiniwyd gan Nick Martin, sefydlydd yr Australian Twin Registry. 

Ar gyfer y dasg cysylltu geiriau, defnyddiwyd 100 o eiriau ciw o’r ail a’r drydedd set o eiriau mwyaf cyffredin yng Nghorpws Cenedlaethol Prydain. Rhoddwyd tasg cysylltu geiriau ysgrifenedig i efeilliaid 16 oed (n=686) a 65+ oed (n=143).

Yn dilyn Fitzpatrick et al. (2015), nid yw’r ymatebion yn y setiau data isod wedi cael eu golygu na’u haddasu, ac eithrio mewn achosion o wallau teipio neu gamsillafu lle roedd yr ymateb a fwriadwyd yn amlwg.

Mae allbynnau o ran y data hwn yn cynnwys: Fitzpatrick, T., Playfoot, D., Wray, A., a Wright, M. J. (2015). Establishing the reliability of word association data for investigating individual and group differences. Applied Linguistics, 36(1), 23-50.

Dyfynnwch yr wybodaeth a’r data ar y dudalen hon fel a ganlyn: Fitzpatrick, T., Mills, T., a Morris, S. (2025). Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli: Deall Geirfa’r Meddwl [Fitzpatrick, T., Wright, M. Cysylltu geiriau mewn gefeilliaid ifanc a hŷn]. Prifysgol Abertawe.  https://mental-lexicon.swansea.ac.uk/cy/ddata-cymraeg/

Data

Drwy lawrlwytho’r ffeiliau canlynol, rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r set ddata hon o dan drwydded Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International.

FeelDolen
Gefeilliaid IfancDataset.xlsx
Gefeilliaid HŷnDataset.xlsx

Cydnabyddiaeth

Casglwyd hyn ar ran Tess Fitzpatrick (PY) gan ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil Feddygol Queensland fel rhan o brosiect a ariannwyd gan yr ESRC yn 2011/12.