Ynglŷn â’r Prosiect

Mae’r set ddata hon yn cynnwys ymatebion cysylltu geiriau i chwe gair sydd fel arfer yn cael eu defnyddio mewn cyd-destunau gofal canser: remission, chemotherapy, radiotherapy, palliative, surgery, benign. (lleddfu, cemotherapi, radiotherapi, lliniarol, llawfeddygaeth, anfalaen). Daw’r data o ddau grŵp.  cyfranogwyr lleyg (n=292) ac ymarferwyr gofal iechyd (n=82). Rhoddodd y cyfranogwyr dri ymateb i bob ciw.

Mae allbynnau o ran y data hwn yn cynnwys:

  • Fitzpatrick, T., Lutchman-Singh, K., Coffey, M. a Davies, C. (i ddod). Words and meanings in cancer communication.

Dyfynnwch yr wybodaeth a’r data ar y dudalen hon fel a ganlyn: Fitzpatrick, T., Mills, T., a Morris, S. (2025). Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli: Deall Geirfa’r Meddwl [Fitzpatrick, T., Lutchman-Singh, K. a Davies, C. Cysylltu geiriau terminoleg gofal canser]. Prifysgol Abertawe.  https://mental-lexicon.swansea.ac.uk/cy/ddata-cymraeg/

Data a Delweddu

Mae’r rhestri normau ar gyfer y chwe chiw wedi’u dangos isod. Ceir dau grŵp, pobl leyg (PLl) ac ymarferwyr gofal iechyd (YGI). Mae’r tablau a’r graffiau’n hollol ddeinamig a rhyngweithiol. Hofrwch dros bob grŵp i ddidoli’r colofnau ar sail yr ymatebion mwyaf cyffredin ar gyfer pob grŵp. Ar gyfer y graffiau, dewiswch y ciwiau ar yr ochr dde i weld yr ymatebion fesul grŵp am bob ciw.