Isod rydym wedi rhestru rhai adnoddau sy’n gysylltiedig ag ymchwil cysylltu geiriau. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ond yn fan cychwyn ar gyfer ymchwiliadau pellach. Caiff adnoddau eu hychwanegu at y dudalen hon yn rheolaidd, felly cofiwch wirio o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd! 

Mae’r allbynnau a grëwyd fel rhan o’r prosiect Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli (AHRC AH/Y003020/1) wedi’u nodi â seren ⭐️.

Offer Ymchwil | Offer Dysgu ac Addysgu | Sgyrsiau a Phosteri | Darllen Pellach

Offer Ymchwil

  • Mae’r Word Association Data Processor (WADP) yn becyn meddalwedd ffynhonnell agored a grëwyd gan Andreas Buerki, sy’n awtomeiddio agweddau allweddol prosesu data cysylltu geiriau a gasglwyd gan ymatebwyr mewn tasgau cysylltu geiriau. Disgwylir i’r rhai sy’n ei ddefnyddio fod yn ieithyddion a phobl eraill sy’n gweithio gyda data cysylltu geiriau ac yn defnyddio methodoleg sy’n debyg i’r hyn a gyflwynir yn Fitzpatrick et. al. (2015). Am adroddiad ar greu’r WADP a’i nodweddion, gweler Buerki A. (2025) A Word Association Data Processor to Facilitate Robust and Consistent Categorisation and Analysis of Word Associations. Journal of Open Research Software, 13: 2.
  • Mae’r prosiect The Small World of Words yn astudiaeth wyddonol ar raddfa fawr sy’n ceisio adeiladu geiriadur neu eirfa’r meddwl ym mhrif ieithoedd y byd a gwneud yr wybodaeth hon yn hygyrch ar raddfa fawr.
  • Mae’r wefan lognostics yn cynnal cronfa ddata llyfryddiaethol fawr, y mae llawer ohono’n berthnasol i ymchwil cysylltu geiriau. Mae hefyd yn cynnig mynediad at amrywiaeth o becynnau meddalwedd am ddim ar gyfer mathau amrywiol o ddadansoddiad geirfaol.
  • ⭐️ Rydym wedi llunio siart llif Dosbarthu Cyswllt Geiriau y gellir ei defnyddio i gynorthwyo ymchwilwyr wrth ddosbarthu cysylltiadau cysylltu geiriau, yn aml ar y cyd ag offer megis WADP (gweler uchod).
  • ⭐️ Rydym wedi llunio siart llif Ymchwil Cysylltu Geiriau y gellir ei defnyddio i gynorthwyo ymchwilwyr wrth gynllunio prosiectau cysylltu geiriau.

Offer Dysgu ac Addysgu

Diddordeb mewn defnyddio cysylltu geiriau wrth ddysgu ac addysgu Cymraeg?

  • Mae llawer o bobl yn ymateb i giw gyda gair sy’n ymddangos yn aml cyn neu o flaen y ciw hwnnw mewn llafar naturiol. Rydyn ni’n cyfeirio at eiriau o’r fath fel cydleoliadau; mae enghreifftiau yn Gymraeg yn cynnwys tynnu>llun neu yn Saesneg black>coffee. Gallwch lawrlwytho’r rhestr o gydleoliadau Cymraeg gafwyd yn ein data cysylltu geiriau trwy glicio yma.
  • Mae geiriau hyb yn ganolog i rwydweithiau yng ngeirfa’r meddwl achos eu bod wedi’u cysylltu â nifer anghyfartal o uchel o eiriau eraill rydyn ni’n eu gwybod (neu mae angen i ni eu dysgu). Yn ein set ddata, maen nhw’n eiriau sy’n cael eu rhoi fel ymatebion i lawer o giwiau gwahanol. Mae’r rhain yn cael eu hystyried yn eiriau pwysig i ddysgwyr eu gwybod. Mynnwch gip ar ein geiriau hyb trwy glicio yma.
  • Mae’r cyflwyniad sy’n dilyn yn awgrymu sut i ddefnyddio adnoddau ein gwefan i addysgu/dysgu Cymraeg, ac yn cynnig nifer o weithgareddau gyda syniadau ar gyfer defnyddio ymchwil cysylltu geiriau yn yr ystafell ddosbarth. Lawrlwythwch PDF

Sgyrsiau a Phosteri

  • ⭐️ Ym mis Hydref 2024, cawsom wahoddiad gan y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR) i drafod ein prosiect yn eu cyfres o weminarau. Mae ychydig o wybodaeth gefndir am y sgwrs, a dolen i’r recordiad, ar gael yma: “Finding and Losing Words – Understanding the Mental Lexicon (Saesneg)”.
  • ⭐️ Yn Nghynhadledd ar-lein flynyddol Fforwm Ymchwil Eirfaol Hiroshima ym mis Medi 2024, gwnaethom gyflwyno papur ar sut mae data cysylltu geiriau’n berthnasol i addysgu a dysgu iaith. Enw’r papur oedd From Word Associations to Teaching Interventions (Saesneg), ac mae recordiad o’r sgwrs ynghyd â gwybodaeth gefndir ar gael drwy’r ddolen honno.
  • ⭐️  Gwnaethom  gyflwyno poster yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ieithyddiaeth Gymhwysol Prydain (BAAL) ym mis Medi 2024 ym Mhrifysgol Essex ar gysylltiadau geiriau cyfranogwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg. Enw’r poster yw An Analysis of Word Association Behaviour in Welsh (Saesneg); ac mae’r ddolen honno’n mynd â chi i’r poster, ac mae’r crynodeb yma.
  • ⭐️  Yng nghyfarfod blynyddol BAAL Vocabulary SIG  ym Mhrifysgol Leeds  ym mis Mehefin 2024, gwnaethom gyflwyno poster ar Benderfyniadau Methodolegol mewn Dadansoddiad Cyswllt Geiriau (Saesneg). Mae’r ddolen honno’n mynd â chi i’r poster, ac mae’r crynodeb ar gael yma.
  • ⭐️  Ym mis Rhagfyr 2024, gwnaethom gyflwyno seminar ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer Cyfres o Seminarau’r Ganolfan Ymchwil Iaith (Saesneg). Mae’r crynodeb a’r ddolen i’r recordiad ar gael yma.
  •  ⭐️ Ym mis Ebrill 2025, gwnaethom gynnal gweithdy ar gyfer aseswyr iaith yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Profwyr Ieithoedd Ewrop (ALTE). Roedd yr wybodaeth a’r tasgau ar thema Cysylltu Cysylltiad Geiriau ac Ymddygiad Adalw â Hyfedredd  L2.  Yn yr un gynhadledd, rhoddodd Tess gyflwyniad llawn a’r teitl oedd: Not all Words are Equal: The Learnability Factor.
  •  ⭐️ Archwiliodd ein seminar ar gyfer addysgwyr y Gymraeg ym mis Ebrill 2025, a gynhaliwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol , ffyrdd y gall cysylltu geiriau lywio addysgu a dysgu ieithoedd.

Darllen Pellach

Fitzpatrick, T., & Thwaites, P. (2020). Word association research and the L2 lexiconLanguage Teaching53(3), 237-274.

Playfoot, D., Balint, T., Pandya, V., Parkes, A., Peters, M., & Richards, S. (2018). Are word association responses really the first words that come to mind?. Are word association responses really the first words that come to mind?. Applied Linguistics, 39(5), 607-624.

Fitzpatrick, T., Playfoot, D., Wray, A., & Wright, M. J. (2015). Establishing the reliability of word association data for investigating individual and group differencesApplied Linguistics36(1), 23-50.

Fitzpatrick, T. (2012) Tracking the changes: vocabulary acquisition in the study abroad context.  Tracking the changes: vocabulary acquisition in the study abroad context.  Language Learning Journal, 41(1), 81-98.

Fitzpatrick, T. & Izura, C. (2011) Word association in L1 and L2: An exploratory study of response types,  response times and interlingual mediation. Word association in L1 and L2: An exploratory study of response types,  response times and interlingual mediation. Studies in Second Language Acquisition, 33(3), 373-398.

Fitzpatrick, T. (2007) Word association patterns: unpacking the assumptions.  Word association patterns: unpacking the assumptions.  International Journal of Applied Linguistics, 17(3), 319-331.

Fitzpatrick, T. (2006) Habits and rabbits: Word associations and the L2 lexicon Habits and rabbits: Word associations and the L2 lexicon. EUROSLA Yearbook 6, 121-145.