Ynglŷn â’r astudiaeth 

Casglwyd y data gan Jasmine Metcalfe fel rhan o’i gwaith ar gyfer ei thraethawd hir am ei MA TESOL, dan oruchwyliaeth Tess Fitzpatrick, yn 2018.  Mae’r data yn cynnwys ymatebion 10 cyfranogwr dall a 10 cyfranogwr a oedd yn gallu gweld i 100 o giwiau. Dewiswyd y ciwiau i gynrychioli sgoriau uwch (n=70) ac is (n=30) ar gyfer gallu i ysgogi delwedd (imageability). Cawsant eu darllen i gyfranogwyr, a ymatebodd drwy ddweud y gair cyntaf a ddaeth i’w meddwl. Casglwyd y data hwn er mwyn ymdrin â chwestiynau ymchwil a damcaniaethau megis: 

  • Ym mha ffyrdd, os o gwbl, y mae rhwydweithiau geirfaol unigolion dall yn wahanol yn systematig i rai unigolion sy’n gweld. 
  • Damcaniaeth Un: bydd cysylltiadau geiriau unigolion dall a rhai sy’n gweld yn llai tebyg ar gyfer geiriau â gallu uchel i ysgogi delwedd, ac i’r gwrthwyneb, hynny yw bydd ymatebion cysylltu cyfranogwyr dall a rhai sy’n gweld yn fwy tebyg ar gyfer geiriau â gallu llai i ysgogi delwedd. 
  • Damcaniaeth Dau: bydd cyfranogwyr sy’n gweld yn cynhyrchu amrywiaeth ehangach o ymatebion ac, yn yr un modd, gall hyn fod yn fwy amlwg ar gyfer geiriau â sgorau uwch o ran eu gallu i ysgogi delwedd. Yn benodol, rhagwelir mai’r nodweddion gweledol sy’n gysylltiedig ag eitemau geirfaol, megis termau am liw, fydd sylfaen hanfodol unrhyw amrywiaeth a achosir. 

Dyfynnwch yr wybodaeth a’r data ar y dudalen hon fel a ganlyn: Fitzpatrick, T., Mills, T., a Morris, S. (2025). Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli: Deall Geirfa’r Meddwl  [Metcalfe, J. (2018) Cymharu Rhwydweithiau Geirfaol Unigolion Dall a Rhai sy’n Gweld: Ynchwiliad Cychwynnol ]. Prifysgol Abertawe. https://mental-lexicon.swansea.ac.uk/cy/

Data

Drwy lawrlwytho’r ffeiliau canlynol, rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r set ddata hon o dan drwydded Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International. 

FfeilDolen
Blind and Sighted Word Association DataDataset.xlsx

Cydnabyddiaeth 

Casglwyd y data gan Jasmine Metcalfe fel rhan o’i gwaith ar gyfer ei thraethawd hir am ei MA TESOL, dan oruchwyliaeth Tess Fitzpatrick.