Ynglŷn â’r Prosiect

Daw’r data hwn gan un cyfranogwr a oedd yn unigolyn dwyieithog Saesneg-Cymraeg ac a oedd hefyd wedi caffael yr iaith Sbaeneg (De America) Cyflwynwyd 100 o giwiau yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Sbaeneg i’r cyfranogwr. Cafodd y ciwiau Saesneg eu dewis ar hap o’r ail fil a’r drydedd mil o eiriau mwyaf cyffredin yng Nghorpws Cenedlaethol Prydain. Cafodd y ciwiau Cymraeg a Sbaeneg eu cyfieithu o’r ciwiau Saesneg.

Cwblhaodd y cyfranogwr dri phrawf bob deufis. Roedd pob prawf yn cynnwys tair sesiwn brawf a gynhaliwyd ar ddiwrnodau dilynol.  Ym mhob sesiwn, cyflwynwyd tair set o 33 neu 34 o giwiau i’r cyfranogwr, un set yn Gymraeg, un set yn Saesneg ac un yn Sbaeneg. Er mwyn lleihau effeithiau preimio, cafodd trefn y ciwiau ei dewis ar hap ym mhob set, ac roedd trefn y setiau iaith yn wahanol bob dydd. Erbyn diwedd y trydydd diwrnod, roedd y cyfranogwr wedi rhoi ymatebion CG i 100 o eiriau yn y tair iaith.   

Casglwyd y data hwn er mwyn ateb cwestiynau ymchwil megis:

  • Gyda chyfranogwr dwyieithog Saesneg-Cymraeg sydd hefyd wedi caffael Sbaeneg yn ddiweddarach, a oes llai o wahaniaethau rhwng ymddygiad CG yn Saesneg a Chymraeg na rhwng y naill iaith neu’r llall a Sbaeneg? 
  • Yn y 3 phrawf a gynhaliwyd bob deufis a chan ddefnyddio’r un setiau o giwiau yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Sbaeneg yn ystod pob prawf, a yw ymddygiad ymateb y cyfranogwr yn gyson o ran a) eitemau geirfaol a gynhyrchir a/neu b) categorïau ymateb? 
  • A oes perthynas rhwng gallu’r gair ciw i ysgogi delwedd, a’r tebygolrwydd y byddai cyfieithiad cyfatebol fel ymateb yn cael ei roi yn y tair iaith? 
  • A yw ymatebion ar ffurf cyfieithiad cyfatebol yn nodi prosesu cysyniadol yn hytrach nag ieithyddol? (e.e. table-chair; bwrdd-cadair; mesa-silla) 

Dyfynnwch yr wybodaeth a’r data ar y dudalen hon fel a ganlyn: Fitzpatrick, T., Mills, T., a Morris, S. (2025). Dod o hyd i Eiriau, eu Rhannu a’u Colli: Deall Geirfa’r Meddwl [Fitzpatrick, T. cysylltiadau geiriau teirieithog]. Prifysgol Abertawe.  https://mental-lexicon.swansea.ac.uk/cy/ddata-cymraeg/

Data

Drwy lawrlwytho’r ffeiliau canlynol, rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r set ddata hon o dan drwydded Creative Commons Attribution-NonCommercial 4.0 International.

FfeilDolen
Set Ddata Astudiaeth Achos CG Cymraeg-Saesneg-SbaenegDataset.xlsx
Gwybodaeth Astudiaeth Achos CG Cymraeg-Saesneg-SbaenegCyfarwyddiadau.pdf

Cydnabyddiaeth

Casglwyd y data hwn gan Tess Fitzpatrick mewn prosiect heb ei ariannu.